CLAIRE JONES (telyn)
Dydd Sadwrn 22ain Mawrth am 7.30yh, Theatr Mwldan
Prisiau Tocynnau: £12 (£10) £1 o dan 22 oed
Debussy: "The Girl with the flaxen hair"
Kreisler: Praeludium and Allegro
Mayani: Maqamat
Saint-Saens: "Softly awakes my heart"
Godefroid: Danse des Sylphes
Hasselmans: La Source, Op.44
Marshall: "Heartstrings"
Bartok: "Rumanian Folk Dances"
Suogan: Traddodiadol
Prokofiev: Themau o Romeo a Juliet
Wedi ei geni yn Sir Benfro ym 1985 ac wedi ei haddysgu yn Ysgol y Preseli, graddiodd Claire gyda gradd anrhydedd dosbarth cyntaf o Goleg Brenhinol Cerddoriaeth Llundain. Hi oedd un o’r rhai cyntaf i dderbyn Gwobr Astudiaethau Uwch Tywysog Cymru yn 2007 a 2008, a hyn yn tystio ei bod yn un o dalentau ifanc amlycaf Cymru. Yn 2011 chwaraeodd yn y Briodas Frenhinol ym Mhalas Buckingham i Ddug a Duges Caergrawnt.